Taith Ffilmiau Mud Byrion Cyf. 2

Mae'r casgliad newydd hwn o ffilmiau arswyd mud cynnar o ddechrau'r 20fed ganrif yn dangos ochr dipyn mwy ysgafn o anturiaethau gyntaf sinema i'r erchyll ac arallfydol. Mae pedair ffilm sy'n dangos y sinistr a'r gwallgof yn eistedd wrth ochr un o wir glasuron tywyll arswyd mud cynnar. Mae'r cerddoriaeth weid'i comisiynnu'n arbennig gan Gŵyl Arswyd Abertoir ac yn cael ei pherfformio yn fyw gan Paul Shallcross.

Dal i deithio yn 2016!

THE POLY, Falmouth (Nos Fercher, Tachwedd 9fed)
CALSTOCK ARTS CENTRE, Calstock (Nos Iau, Tachwedd 10fed)


Ar gael i archebu ar gyfer eich lleoliad unrhyw bryd. Cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio'r ddolen ar ben y dudalen. Mae'r perfformiad yn para tua 75 munud, gan gynnwys cyflwyniadau i'r ffilmiau.

Er cof am Afan ab Alun, y mae ei rhodd garedig wedi gwneud hyn yn bosibl.

The Haunted House (1921)

Buster Keaton, UDA, 21 mun.

Mae parodi Keaton o'r genre tŷ ysbrydion, oedd yn boblogaidd ar y pryd, yn llawn dop o jôcs a styntiau i plesio pob gynulleidfa. Heb law am Keaton ei hun, seren y sioe hwn yw grisiau sy'n syrthio ar eu hunain!

The Thieving Hand (1908)

J. Stuart Blackton, UDA, 6 mun.

Mae braich artiffisial hefo greddf ddi-stop am ddwyn. Mae'n cymryd dros y prynwr diniwed ac yn ei arwain ef i'r unig fan lle y gall y fraich deimlo'n ddiogel. Gwnaed yn wreiddiol fel comedi, mae'r portread realistig 'stop-motion' y fraich artiffisial symudol wedi ennill y ffilm ei le haeddiannol yn hanes arswyd cynnar.

Prelude (1927)

Castleton Knight, DU, 8 mun.

Mae dyn yn eistedd ac yn darllen y geiriau cyfarwydd hyn gan Edgar Allan Poe a mae arwyddion eraill cyfarwydd yn ymddangos: cloch yn canu, gorymdaith angladd, daear yn syrthio, frwydr o dan amwisg. Dyma ffilm dywyll a hardd wedi'i ysbrydoli gan y Prelude in C sharp minor gan Rachmaninov.

Une Excursion Incohérente (1909)

Segundo de Chomón, Ffrainc, 9 mun.

Mae diwrnod i'r teulu yn y goedwig yn troi i fewn i ddiwrnod o arswyd. Mae cacenni mwydyn, rôliau cynrhon a wyau llygod i gyda ar y fwydlen wrth i Chomon ein diddannu gyda un o'i ffantasiau mwyaf swreal.

Un Homme de Têtes (1898)

Georges Méliès, Ffrain, 1 munud.

Wedi'i ysgrifennu, cyfarwydd a'i actio gan y Ffrancwr gwych Georges Méliès ac yn cynnwys pedwar o pennau wedi'i dorfynyglu, a pob un ohonyn nhw yn berchen i Méliès.