Arddangosfa'n Teithio

Wedi'i curadu gan Abertoir ar gyfer yr ŵyl yn 2013, mae ein harddangosfa Scream and Scream Again: The Golden Age of British Horror yn parhau i arswydo a hyfrydu wrth iddi deithio lleoliadau gwahanol dros y DU. Cafodd ei harddangos yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae'n bleser gynnom ni gyhoeddi rhagor o leoliadau.

Gwelodd y 1950au i'r 1970au newid mawr yn sinema arswyd Prydain, ac yn wahanol iawn i'r arswyd fel yr ydym yn ei adnabod heddiw. Yn cael ei chyfeirio ato fel oes euraidd arswyd, gwelodd y cyfnod actorion fel Christopher Lee a Peter Cushing yn dod yn enwau cyfarwydd, tra daeth y stiwdio arswyd Prydeinig yn ddylanwad mawr dros y byd.

O'r arddull gothig cynnar i'r datblygiad o ddiwylliant pop yn y 1970au, mae'r arddangosfa hon yn edrych ar ffilmiau o'r cyfnod a sut cawsant nhw eu marchnata dramor drwy gasgliad o bosteri a chardiau lobi o ar draws y byd.

AR DAITH NAWR!

Hyd 2il - Rhag 2il 2017 - Maidstone Museum and Art Gallery, Maidstone.

Mae Scream and Scream Again: The Golden Age of British Horror yn arddangosfa Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; wedi'i curadu gan Gŵyl Arswyd Abertoir. Os oes diddordeb gyda chi cael wybod mwy am yr arddangosfa neu os oes diddordeb gyda chi yn dod â fo i'ch lleoliad chi, cysylltwch gyda ni!