
Gaz Bailey
gaz[at]abertoir.co.uk
Cyfarwyddwr yr Ŵyl

Nia Edwards-Behi
nia[at]abertoir.co.uk
Cyfarwyddwr yr Ŵyl

Tristan Bishop
DJ Preswyl

Rhys Fowler
rhys[at]abertoir.co.uk
Cyfarwyddwr yr Ŵyl

Vincent Price
'Nawddsant' Swyddogol yr Ŵyl
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
-
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw’r ganolfan gelf fwyaf a phrysuraf yng Nghymru, gyda rhaglen eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws yr holl ffurfiau celf. Fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau. Mae’n croesawu dros 650,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 98,000 o unigolion sy’n mynychu ein rhaglen addysgol celfyddydau cymunedol unigryw.
Mae’r Ganolfan yn adran o Brifysgol Aberystwyth, ac fe’i lleolir yng nghanol campws y brifysgol gyda golygfeydd ysblennydd ar draws tref Aberystwyth ac ar hyd arfordir Bae Ceredigion.
Yn 2000 cwblhawyd prosiect ail-ddatblygiad sylweddol gwerth £4.3 miliwn yn y Ganolfan, gyda chefnogaeth ariannol gan y Loteri Genedlaethol yn bennaf. Gyda chyfleusterau sydd heb eu hail yn y rhan fwyaf o’r DU, fe’i cydnabyddir fel ‘banerlong genedlaethol ar gyfer y celfyddydau’.
Am ragor a fanylion (gan gynnwys sut i gyrraedd yma), ymwelwch â gwefan y Ganolfan.